
A all dechreuwyr gymryd rhan?
Rydym wedi datblygu Cudyll Cymru i fod mor hygyrch i bawb â phosibl!
Mae’r prosiect yn gwbl hyblyg i gyd-fynd â’ch argaeledd a lefel profiad, ac mae digon o hyfforddiant ar gael, felly gall hyd yn oed y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol gymryd rhan yn hyderus yn y gwaith pwysig hwn.
Pa sgiliau sydd eu hangen?
Mae angen i chi allu adnabod un neu fwy o bum rhywogaeth darged y prosiect.
- Y pum rhywogaeth sy’n cael eu monitro gan Cudyll Cymru yw Bwncath, Cudyll, Cigfran, Barcud a Gwalch Glas. Gallwch fonitro mwy nag un rhywogaeth os dymunwch, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.
Mae angen i chi allu cyfrif adar i wneud arolwg o’ch ardal ddewisedig.
- Os yn bosibl, gallwch hefyd roi cynnig ar fapio tiriogaethau, dod o hyd i nythod a phenderfynu ar nifer y cywion sy’n cyrraedd oedran magu o bob nyth (a elwir yn cofnodi llwyddiant bridio).
Rydym yn darparu hyfforddiant ar bob agwedd ar y prosiect, o adnabod adar ysglyfaethus a methodolegau arolwg i ddefnyddio porth y prosiect ar-lein a chyflwyno eich data – felly nid oes angen i chi feddu ar y sgiliau hyn yn barod i gofrestru!
Faint o amser mae’n ei gymryd?
Bydd yr ymrwymiad amser yn dibynnu ar hyd a lled yr arolwg y byddwch chi’n dewis gwneud a maint eich ardal fonitro, ond lleiafswm o ychydig oriau’r mis yn unig sydd ei angen.
- Bydd monitro’n digwydd yn ystod y tymor nythu, sef o ddechrau mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Awst fel arfer ar gyfer y rhan fwyaf o adar ysglyfaethus.
- Dylid cyflwyno data i’r porth mewnbynnu data (Cudyll Cymru Ar-lein) erbyn diwedd mis Medi.
Ble caiff yr arolwg hwn ei gynnal?
Chi sy’n dewis eich ardal arolygu yng Nghymru i’w monitro: gall hwn fod yn rhywle sy’n lleol i chi, eich hoff le i fynd â’r ci am dro efallai neu’ch taith ddyddiol i’r gwaith.
Dewis Ardal Arolwg ar Fap Cudyll Cymru
- Bydd modd i chi ddewis ardal eich arolwg wedi i chi gofrestru.
Defnyddiwch y map hwn i'ch helpu i nodi lle hoffech chi sefydlu ardal arolwg. Gallwch chwilio yn ôl rhywogaeth a chwyddo'r sgrin i weld faint o fonitro sy'n eich ardal cyffredinol. Mae ardaloedd (sgwariau 'tetrad') wedi'u lliwio yn ôl eu blaenoriaeth ar gyfer y prosiect hwn (Coch - mwyaf defnyddiol). Cliciwch ar sgwâr penodol i dynnu ardal arolwg oddi mewn iddo.
Hyfforddiant a chefnogaeth
Methodoleg adnabod yr adar a’u harolygu
Gall fod yn heriol adnabod adar ysglyfaethus yn eu cynefin – mae rhai yn esgyn i uchder mawr, tra bod eraill yn swil ac yn anodd ei gweld. Dyna pam rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus i bob gwirfoddolwr newydd, gan sicrhau bod hyd yn oed y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol yn gallu cymryd rhan yn hyderus yn y gwaith pwysig hwn.
Bydd cyfres o ddeunyddiau, megis fideos adnabod adar a chanllawiau ysgrifenedig, methodolegau arolwg a sut i gofnodi lleoliadau yn gywir gan ddefnyddio cyfeirnodau grid ar gael i gyfranogwyr, ynghyd â chefnogaeth bersonol gan Gydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus Cymru.
Hefyd, bydd gweithdai rhithwir ac wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn rheolaidd i ddatblygu sgiliau sy’n cyfnerthu’r gwaith o fonitro’r adar anhygoel hyn, megis adnabod plu ac ymgymryd â gwaith maes.
Cyflwyno eich data
Mae gan Cudyll Cymru borth ar-lein hawdd ei ddefnyddio lle gallwch storio a rheoli eich cofnodion personol. Bydd ein Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus wrth law i’ch helpu i gychwyn arni a thra boch chi’n cyfrannu i’r prosiect, i sicrhau y gallwch gyflwyno’ch data yn gyflym ac yn rhwydd i’w dadansoddi gan wyddonwyr BTO. Mae gennym hefyd sesiynau tiwtorial wedi’u teilwra am gyflwyno data, yn ogystal â llawlyfr canllaw cynhwysfawr.
Elfen bwysig o’r prosiect hwn yw sicrhau bod y methodolegau, y cyflwyno data a’r adrodd yn ôl mor syml â phosibl i’r rhai sy’n megis dechrau ar eu profiad cyntaf o fonitro adar ysglyfaethus.