Mae Cudyll Cymru yn gynllun newydd sy’n monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru. Dysgwch fwy am y prosiect a’i waith pwysig, a darganfyddwch sut i gymryd rhan – beth bynnag fo lefel eich sgiliau a’ch profiad.

Time, skill and support
Hyblyg, o gyn lleied â dwy awr y mis hyd at faint bynnag o amser sydd gennych i’w roi!
Mae angen i chi allu adnabod o leiaf un math o aderyn ysglyfaethus cyffredin o’i olwg, a dilyn methodolegau i’w fonitro’n llwyddiannus. Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer y ddau sgil hyn.
Mae fideos, cyrsiau a mentora un i un ar gael i’ch helpu i ddatblygu sgiliau mewn adnabod adar ysglyfaethus, dulliau monitro a chyflwyno eich data.
Mwy am Cudyll Cymru
Mae adar ysglyfaethus yn adar difyr, carismatig ac mae Cymru’n ffodus i fod yn gartref i 17 o’r 20 rhywogaeth o adar ysglyfaethus sy’n nythu yn y DU.
Mewn gwirionedd, mae adar ysglyfaethus yn nodweddion dynodedig nifer o Ardaloedd Gwarchodedig yng Nghymru, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.
Mae Cudyll Cymru yn fenter sy’n monitro poblogaethau a chynhyrchiant nythu pum rhywogaeth o adar ysglyfaethus sy’n gyffredin yng Nghymru:
Bwncath

Cudyll Coch

Cigfran

Barcud

Gwalch Glas

Er ei bod yn dechnegol yn perthyn i deulu’r brain, mae’r Cigfran wedi’i chynnwys oherwydd ei thebygrwydd ecolegol i adar ysglyfaethus.
Bydd Cudyll Cymru yn ein helpu i:
- Gasglu data cadarn am dueddiadau poblogaethau adar ysglyfaethus i wella ein dealltwriaeth ohonynt ledled Cymru, ac o fewn ei rhwydwaith o Ardaloedd Gwarchodedig.
- Ddarparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi ymdrechion cadwraeth adar ysglyfaethus ac i lywio ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Cymru a’r DU i warchod bywyd gwyllt.
- Alluogi cymunedau lleol i ddysgu mwy am eu hadar ysglyfaethus, meithrin ymdeimlad o ofalaeth ar gyfer eu cynefinoedd ac annog gweithredu i’w gwarchod at y dyfodol.
Project timeline
Llinell amser y prosiect
- Gwanwyn 2024 Y prosiect yn derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Haf 2024 Penodwyd ein Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus (Cymru) ac mae’r gwaith yn dechrau
- Hydref 2024 Cyn-gofrestru cyfranogwyr yn dechrau
- Gaeaf 2024 Cyfle i ddewis safle a hyfforddiant i gyfranogwyr
- Gwanwyn 2025 Arolygon tymor nythu cyntaf (Bwncath, Cudyll, Barcud, Gwalch Glas)
- Gwanwyn 2026 Arolygon tymor nythu cyntaf (Cigfran)
Arweinydd y Prosiect
Charlotte Griffiths
Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus Cymru
Cysylltwch â ni
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
- Ebostiwch ni ar cudyll.cymru@bto.org.