Pam fod angen y prosiect hwn arnom?

Pam fod angen y prosiect hwn arnom?

Mae Cudyll Cymru yn fenter sy’n monitro poblogaethau a chynhyrchiant nythu pum rhywogaeth o adar ysglyfaethus sy’n gyffredin yng Nghymru: Bwncath, Cudyll Coch, Cigfran, Barcud a Gwalch Glas.

Mae’r dulliau monitro adar sydd gennym ar hyn o bryd yn aml yn ei chael hi’n anodd darparu gwybodaeth am adar ysglyfaethus oherwydd eu bod, fel arfer, yn adar sydd â dwysedd poblogaeth isel a phrin y'i gwelir yn ystod arolygon adar sy’n cael eu cynnal yn y boreau bach!

Nod Cudyll Cymru yw mynd i’r afael â’r bylchau yn y data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr adar eiconig hyn yng Nghymru.

I wneud hyn, mae angen i ni ehangu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr, a fydd yn cynyddu faint o Gymru gaiff ei harolygu a’r arbenigedd o fewn y tîm hwnnw o wirfoddolwyr. Dyna pam mae cymaint o ffocws ar hyfforddiant ac uwchsgilio yn Cudyll Cymru.

Cefnogi ymdrechion cadwraeth adar ysglyfaethus

Mae Cymru yn dioddef pwysau ar y cyd gan newid defnydd tir a newid hinsawdd, ac mae adar ysglyfaethus ar y pen blaen o ran dioddef o bwysau ecolegol ac ymyriadau dynol.

Mae angen mwy o ddata arnom am boblogaethau adar ysglyfaethus i ddeall sut a pham mae eu niferoedd yn newid, a sut y gallwn eu helpu.

Bydd y data a gesglir gan Cudyll Cymru yn gweithredu fel gwaelodlin ar gyfer monitro tueddiadau poblogaethau yn y dyfodol, a bydd yn darparu gwybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i strategaeth gadwraeth effeithiol a chynorthwyo ymrwymiadau cyfreithiol y Llywodraeth i warchod bywyd gwyllt.

Llywio rheolaeth Ardaloedd Gwarchodedig yng Nghymru

Gan fod nifer o adar ysglyfaethus ar frig y gadwyn fwyd maent yn ddangosyddion biotig hanfodol sy’n rhoi syniad i ni am iechyd yr amgylchedd lleol yn gyffredinol.

Mae adar ysglyfaethus yn sensitif iawn i newidiadau fel colli cynefinoedd, argaeledd ysglyfaeth, llygredd a gweithgareddau dynol, sy’n golygu y gallwn ddefnyddio newidiadau mewn poblogaethau adar ysglyfaethus i’n galluogi ni i ganfod y newidiadau hyn mewn da bryd.

Trwy flaenoriaethu monitro’r rhywogaethau allweddol ecolegol hyn o fewn ardaloedd gwarchodedig, megis SoDdGA ac AGA, bydd yr asiantaethau perthnasol mewn sefyllfa gwell i allu asesu effeithiolrwydd strategaethau rheoli cyfredol. Yn y pen draw, bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig Cymru.

Dechreuwch ar eich siwrnai monitro adar ysglyfaethus heddiw!

Mae’r prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol ym mis Ionawr 2025, gyda’n monitoriaid hyfforddedig yn barod i ddechrau eu gwaith arolygu.

Os hoffech ymuno a’r prosiect, llenwch ein ffurflen ar-lein ac fe wnawn ni gysylltu â chi i’ch rhoi ar ben ffordd.

Ffurflen mynegi eich diddordeb ar-lein